1 Maw 2017

Mae’n bwysig a hithau’n Ddydd Gŵyl Dewi i gymryd amser i ystyried a dathlu rhai o lwyddiannau Cymru yn Ewrop. Er ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd Cymru bob amser yn parhau’n rhan o Ewrop. Mae’n bwysig nad ydym yn colli golwg ar hyn a’r cysylltiadau rydym wedi’u creu dros y blynyddoedd a’n bod yn gweithio i sicrhau parhad y berthynas â’n cyfeillion a’n partneriaid Ewropeaidd

Daff

Siaradodd ein his-lywydd Tom Jones, yn fforwm Rhwydwaith Datblygu Gwledig Ewrop yn ystod gweithdy ym Mrwsel. Daeth y digwyddiad â mudiadau o bob rhan o Ewrop at ei gilydd sy'n gweithio mewn ardaloedd gwledig ac sy'n benderfynol o oresgyn allgáu cymdeithasol a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol mewn cymunedau gwledig. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwirioneddol i'r mudiadau hyn arddangos eu gwaith, rhannu eu profiadau, ysgogi cyfnewid ac ysbrydoli gwaith a chydweithio yn y dyfodol.


Wrth siarad yno pwysleisiodd Tom, sydd hefyd yn aelod o Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop, y bwlch rhwng cymunedau gwledig a threfol, gan roi'r bai ar allgáu fel un o'r prif resymau dros y bwlch hwn. Dywedodd Tom fod allgáu gwledig yn cael ei 'waethygu gan ei fod yn anweledig' - a achosir gan ddiffyg gwasanaethau cymorth mewn ardaloedd gwledig.

Neges glir o'r digwyddiad oedd bod yn rhaid mynd ati i adnewyddu cymunedau gwledig mewn ymdrech ar y cyd ledled Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r allgáu hwn.

Trwy ei weledigaeth, ei reoleiddiad, trwy hyrwyddo'r Egwyddor Partneriaeth a thrwy ei offer cyllido, mae'r mentrau a arweinir gan y Comisiwn Ewropeaidd ac yn enwedig Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi helpu, ac mae'n gallu parhau i helpu i feithrin hyder mewn cymunedau a hyrwyddo cynhwysiant.

Pobl yw hanfod Cronfa Gymdeithasol Ewrop, ei diben yw hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol drwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, a buddsoddi mewn sgiliau sy'n galluogi pobl i wireddu eu potensial. Yn ôl adroddiad gan y Comisiwn Ewropeaidd, erbyn diwedd 2014, roedd o leiaf 9.4 miliwn o drigolion Ewropeaidd wedi dod o hyd i swydd gyda chymorth gan y Gronfa. Enillodd 8.7 miliwn gymhwyster neu dystysgrif. Adroddodd 13.7 miliwn o gyfranogwyr ganlyniadau positif eraill, megis codi lefelau sgiliau.

ESF Thumbnail


Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi datganiad clir bod 'Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi chwarae rhan hanfodol yn cynorthwyo i foderneiddio gwasanaethau cyflogaeth cyhoeddus a sefydliadau eraill sy'n gyfrifol am gymryd camau i hybu'r farchnad lafur. Mewn rhanbarthau llai datblygedig mae'r Gronfa wedi cefnogi diwygiadau mewn gweinyddiaeth addysg, gweinyddiaeth y farnwriaeth a gweinyddiaeth gyhoeddus yn gyffredinol. Wrth wneud hyn, rhoddodd hwb positif i'r amgylchedd busnes a chreu cymdeithasau mwy cynhwysol.'

Mae Cymru ar ei hennill drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (a chronfeydd strwythurol eraill)*. Mae prosiectau dan arweiniad y trydydd sector yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael dros £39 miliwn o'r Gronfa drwy brosiectau megis SOVA Achieving Change through Employment a Cenedl Hyblyg 2 gan Chwarae Teg.

Mae gan WCVA hefyd hanes hir o gynnal prosiectau drwy'r Gronfa, megis y Farchnad Lafur Drosiannol a'r Porth Ymgysylltu. Rhwng 2007 a 2014, wrth gymryd y ddau brosiect gyda'i gilydd, cynorthwywyd dros 34,500 o gyfranogwyr, gan sicrhau dros 4,450 o swyddi a thros 13,000 o gymwysterau. Sicrhaodd 48% o gyfranogwyr yn y Farchnad Lafur Drosiannol gyflogaeth gynaliadwy. Yn sgil llwyddiant y ddau brosiect, llwyddodd WCVA i sicrhau cyllid pellach o Gronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol.

Mae'r prosiect yn cynnig cyllid i fudiadau ledled Cymru i gefnogi pobl o rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig a'u rhoi ar ben ffordd tuag at gyflogaeth gynaliadwy. Mae prosiectau yn cynorthwyo pobl i godi eu hyder a'u cymhelliant drwy weithgareddau ymarferol, hyfforddiant a lleoliadau cyflogaeth gyda chymorth a thâl.

Dyma enghraifft go iawn o ba mor fuddiol y gall y prosiectau hyn fod ym mywydau pobl. Darllenwch stori ysbrydoledig Alice o fod yn ddall, yn swil ac yn ddihyder i ddilyn ei breuddwydion i ddod yn swyddog adsefydlu.

Meddai Julie James AC: 

"Mae Cymru yn elwa o oddeutu £500 miliwn o gyllid yr UE bob blwyddyn i gefnogi twf a swyddi, sy'n cynnwys buddsoddiadau i helpu i wella'r cyfleoedd ar gyfer sgiliau a chyflogaeth i filoedd o bobl fregus ledled Cymru.   
"Mae sicrhau bod gan Gymru y sgiliau iawn i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer gwaith nawr ac yn y dyfodol yn flaenoriaeth bwysig i'r llywodraeth hon, ac rydym wedi ymrwymo i helpu'r rhai hynny sydd â'r angen mwyaf i gyrraedd eu potensial yn llawn.   
"Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i fywydau pobl ifanc ac yn helpu'r rhai hynny sydd wedi eu cau allan o'r farchnad swyddi i fagu'r sgiliau hanfodol ac i dderbyn cyfleoedd i hyfforddi a chael gwaith, gan helpu i sicrhau fod Cymru yn gymdeithas decach, mwy llewyrchus a chynhwysol."   

*Mae cynnyrch domestig gros Cymru yn is na 75% o gyfartaledd yr UE, felly mae Cymru'n cael 10% o gyfanswm y Cronfeydd Strwythurol sydd wedi'i glustnodi i'r Deyrnas Unedig o'i gymharu â'r 7% y byddai fel arfer yn ei gael pe bai'r arian yma'n cael ei ddosbarthu o dan fformiwla barnet.