22 Medi 2017
Mae recriwt3 wedi lansio gwefan newydd sbon lle gallwch ddod o hyd i’r holl gyfleoedd diweddaraf am swyddi yn y trydydd sector yng Nghymru, a chofrestru i gael hysbysiadau o swyddi wedi’u teilwra i chi.

Ceir tua 33,000 o fudiadau yn y trydydd sector yng Nghymru, gan
gynnwys elusennau, grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a mentrau
cymdeithasol, ac amcangyfrifir ei fod yn werth tua £3.7bn i economi
Cymru. Nod recriwt3 yw canfod pobl ddawnus ac
uchelgeisiol i weithio yn y trydydd sector yng Nghymru, a helpu
pobl i ddod o hyd i swyddi sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn ym
mywydau pobl.
Gwefan newydd sbon, hawdd ei defnyddio
Mae gwefan newydd recriwt3 yn cynnig y sbectrwm
llawn o swyddi o blith amrywiaeth enfawr o achosion yn y trydydd
sector - o swyddi gweinyddol, gofalwyr a chodwyr arian, i swyddi
uwch reoli a'r tu hwnt.
Dewch o hyd i'r swydd sy'n gweddu orau i chi drwy chwilio o fewn
meysydd gwahanol yn y trydydd sector, megis iechyd meddwl, lles
anifeiliaid, neu faterion amgylcheddol, neu gallwch chwilio yn ôl
lleoliad, math o gontract neu rôl y swydd.
Yn ogystal, mae recriwt3 bellach yn rhoi'r
cyfle i chi greu'ch proffil eich hun, cadw'ch manylion a'ch
sgiliau, a lanlwytho'ch CV, fel y gallwch ymgeisio'n gyflym ac yn
ddidrafferth pan welwch swydd addas.
Cofrestru ar gyfer hysbysiadau personol o swyddi
Mae cofrestru ar gyfer hysbysiadau o swyddi yn ffordd
ragweithiol o ddarganfod pryd y mae gan recriwt3 y
swydd berffaith i chi!
Mae'r nodwedd newydd hon yn eich galluogi i ddiffinio'ch
gofynion o ran sector, sgiliau, lleoliad a chyflog ac yna i gael
hysbysiadau cyfredol o swyddi sy'n cyd-fynd â'ch meini prawf.
Ar ôl cofrestru gallwch ar unrhyw adeg ddewis i gael gwahanol
hysbysiadau, rheoli'ch hysbysiadau a dewis pa mor aml yr hoffech eu
cael.
Datblygir recriwt3 yng Nghymru ar y cyd rhwng
WCVA a The Big Issue Cymru.
Mae recriwt3 yn wasanaeth dwyieithog gyda'r
wefan a hysbysiadau o swyddi ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ewch i www.recriwt3.org.uk nawr a
dechrau pori am eich swydd ddelfrydol yn y trydydd sector!
