11 Ion 2018
Mae prif hwylusydd cydweithio i weithwyr llawrydd Indycube efo 500 o ddiwrnodau desg am ddim i unrhyw un sydd am weld beth yw'r manteision heb y daith i'r gwaith.

Ers dechrau arni bron i wyth mlynedd yn ôl, mae Indycube wedi tyfu'n
gyflym i fod y prif hwylusydd cydweithio i weithwyr llawrydd yng
Nghymru, gyda thros 30 o fannau cydweithio nid yn unig yn ninasoedd
Cymru ond hefyd mewn cymunedau cefn gwlad ac ôl-ddiwydiannol.
Yn ddiweddar maent wedi bod yn galw am syniadau mwy creadigol i
ddatrys problemau teithio presennol Cymru. Mae ganddynt weledigaeth
ar gyfer
gweithle 21ain ganrif lle gall cyflogeion weithio'n
lleol yn hytrach na dioddef y daith hir i ddinasoedd gorlawn bob
dydd.
Felly nawr mae Indycube yn rhoi eu harian ar eu gair: maent yn
cynnig 500 o ddiwrnodau desg am ddim yn eu cyfleusterau cydweithio.
Tra maent yn adnabyddus yn bennaf fel mudiad sy'n darparu gofod ac
aelodaeth i weithwyr llawrydd a busnesau bychain, mae llawer o'u
defnyddwyr eraill yn weithwyr o bell - pobl yn gweithio ble a
fynnant, yn aml ble maent yn byw. Maent yn awyddus i hybu'r cyfle
hwn yn yr oes tra thechnolegol hon, lle gellir gwneud llawer o
swyddi yn unrhyw le.
Mae gan Indycube 500 o ddiwrnodau desg am ddim i'w defnyddio ym
misoedd cyntaf 2018 i unrhyw un sydd am weld beth yw'r manteision
heb y daith i'r gwaith. Maent yn rhagweld buddion o ran amser,
arian,
(yn enwedig o gofio'r cynnydd diweddar ym mhris tocynnau
trên), a'r amgylchedd. Maent hefyd yn credu y bydd
cynhyrchedd yn gwella mewn amgylchiadau o'r fath.
Y cwbl maent yn gofyn amdano'n ôl yw cael gwybod pa effaith y
mae gweithio o fan cydweithio mewn ardal leol yn ei chael ar
sefyllfaoedd ariannol pobl, neu beth mae pobl yn dewis ei wneud
gyda'r amser ychwanegol. Mae'n bosib y byddant yn gwneud ambell i
sym a chyfrifiad ar fuddion amgylcheddol, ond mae'r desgiau am ddim
i unrhyw weithwyr swyddfa sydd â chaniatâd i weithio'n lleol/o
bell.
I hawlio'ch desg am ddim ac ymuno yn y chwyldro, anfonwch neges
i hello@indycube.community.