30 Medi 2019
Mae Elusen Ddibynadwy wedi lansio teclyn ar-lein newydd am ddim i helpu elusennau i wneud gwiriad iechyd sylfaenol ar sut mae ei mudiad yn perfformio, gan nodi cryfderau a meysydd i'w datblygu.
Gwiriad iechyd ar-lein am ddim yw Hanfodion Elusen Dibynadwy a
ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer elusennau bach a grwpiau cymunedol
a gwirfoddol.
Bydd yn eich helpu i ddeall pa mor effeithlon yw'ch gwaith nawr
a lle gellir gwneud gwelliannau.
Mae'r teclyn di-gost hwn yn meincnodi'ch gwaith mewn 10 maes
allweddol - bydd yn helpu i asesu'r effaith rydych chi'n ei chael
ar lawr gwlad ac ydych chi'n gwneud y defnydd gorau o'ch
adnoddau.
Mae gan bob cwestiwn esboniad byr i gefnogi'ch trafodaethau ac
mae'n gofyn i chi raddio pa mor llawn mae eich grŵp neu elusen yn
mynd i'r afael â phob cwestiwn.
Pan fyddwch yn nodi meysydd i'w datblygu byddwch wedyn yn
datblygu cynllun gweithredu er mwyn mynd i'r afael â'r meysydd i'w
gwella.
Gellir defnyddio Hanfodion Elusen dibynadwy:
- I wneud 'gwiriad iechyd' sylfaenol ar sut mae eich mudiad yn
perfformio ac yn cyflawni eich cenhadaeth.
- fel teclyn i gynnwys pawb yn eich mudiad mewn trafodaethau am
eich gwaith.
- ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid pwysig â'ch gwaith
os ydych chi am symud ymlaen i ddefnyddio'r safon ansawdd Elusen
Ddibynadwy yn llawn yn y dyfodol.
Gallwch ddechrau trwy ymweld â gwefan Trusted
Charity Essentials lle byddwch chi'n cofrestru ac yn derbyn
eich dolen unigryw eich hun i fersiwn bwrpasol o'r teclyn.
Bydd hyn yn mynd â chi yn ôl at eich atebion a'ch canlyniadau ar
unrhyw adeg ac yn caniatáu i chi eu diweddaru.
Sut mae'n gweithio
Cam 1: cofrestru
Rhowch eich enw a'ch cyfeiriad e-bost a bydd NCVO yn e-bostio
dolen unigryw i'ch fersiwn chi o'r teclyn.
Gallwch ddefnyddio hwn i ddychwelyd i'ch atebion ar unrhyw
adeg.
Cam 2: cwblhewch y teclyn
Ar gyfer pob datganiad, byddwch chi'n sgorio'ch mudiad am sut
mae'n gwneud nawr ac am sut rydych chi'n cynllunio iddo wneud ar ôl
y cyfnod amser rydych chi wedi'i ddewis (e.e. blwyddyn).
Gallwch ychwanegu nodiadau i egluro'ch atebion os oes angen, ond
cymerwch ofal i beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol
ynddynt.
Byddwch yn onest ac yn realistig - bydd yn eich helpu i
gynllunio'n well.
Cam 3: gweld eich canlyniadau
Gallwch weld eich canlyniadau ar unrhyw adeg. Fe welwch sgôr ar
gyfer pob maes rydych chi wedi'i gwblhau a'ch sgôr gyffredinol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Elusennau
dibynadwy.