
Mae cynllunio strategol yn canolbwyntio ar nodau ac amcanion
hirdymor ac yna'n canfod y ffordd orau o gyflawni'r amcanion hynny.
Fel arfer, bydd cynlluniau strategol yn ymestyn dros 3 neu 5
mlynedd ond gall fod yn fwy na hynny.
Mae'n ymdrech ddisgybledig i ffurfio ac arwain beth yn union yw
mudiad, yr hyn mae'n ei wneud a pham ei fod yn ei wneud. Wrth
gynllunio'n strategol mae'n rhaid cael cytundeb ynglŷn â'r ffordd
ymlaen, casglu gwybodaeth ar raddfa fawr, edrych ar bob opsiwn, a
rhoi pwyslais ar beth fydd effaith penderfyniadau heddiw ar y
dyfodol.
Mae gan gynllunio strategol rôl allweddol yng nghynaliadwyedd y
dyfodol gan ei fod yn helpu i feithrin persbectif hirdymor yn y
mudiad.
Mae digonedd o adnoddau defnyddiol yn yr adran hon -
astudiaethau achos, dolenni at wefannau sy'n cynnwys ffynonellau
gwybodaeth pellach ac amrywiaeth o ganllawiau y gallwch eu
lawrlwytho.
Meddwl yn strategol
Bydd meddwl yn strategol yn aml yn golygu bod rhaid i chi gefnu
am ychydig ar eich gwaith pob dydd a'r pwysau sy'n dod yn ei sgil.
Efallai eich bod am ddatblygu rhai syniadau ar eich pen eich hun
ond mae'n aml yn werth chweil ei wneud ar y cyd â phawb sydd â
diddordeb yn y mudiad - staff, gwirfoddolwyr, rheolwyr ac
ymddiriedolwyr. Os ydynt i gyd yn rhan o'r trafodaethau, maent yn
fwy tebygol o dderbyn y cynllun strategol a chytuno ar y ffordd
ymlaen.
Mae meddwl yn strategol yn canolbwyntio ar:
- Y dyfodol y mae'ch mudiad am fod yn rhan ohono, yr enw a roddir
ar hyn yn aml yw gweledigaeth
- Rôl eich mudiad i gyflawni'r weledigaeth honno, gelwir hyn yn
aml yngenhadaeth
- Eich sefyllfa bresennol - sut mae'r mudiad yn perfformio a beth
yw ei berthynas â'i randdeiliaid
- Tueddiadau'r dyfodol yn yr amgylchedd allanol a sut maent yn
effeithio ar eich mudiad
- Newidiadau y mae'n bosibl y bydd rhaid i chi eu gwneud i'ch
gwasanaethau neu ddulliau gweithio i ymateb i gyfleoedd a
bygythiadau yn y dyfodol.
Yn syml, mae bod yn strategol yn golygu edrych ar bopeth yn ei
gyfanrwydd. Dyma pryd mae angen i chi edrych ar bob opsiwn yn
ofalus fel eich bod yn gallu symud ymlaen i'r cam nesaf - cytuno ar
y ffordd ymlaen.
Cytuno ar y ffordd ymlaen
Mae hyn yn golygu mynd â'r 'meddwl strategol' i'r cam nesaf a
sicrhau cytundeb ar genhadaeth eich mudiad. Bydd hyn fel arfer yn
golygu derbyn adborth nifer o randdeiliaid, megis y staff,
gwirfoddolwyr, rheolwyr, ymddiriedolwyr, defnyddwyr, cyllidwyr a
mudiadau partner. Fodd bynnag, yr uwch reolwyr ac aelodau'r bwrdd
ymddiriedolwyr ddylai wneud y penderfyniad terfynol.
Gellir sicrhau bod y cyfeiriad y mae'r mudiad yn mynd iddo yn un
priodol a'i fod yn diwallu anghenion pawb trwy gyfeirio'n ôl at
ddatganiad o fwriad y mudiad.
Datganiad o fwriad ywddatganiad byr o
weledigaeth neu nodau'ch mudiad. Dylai ddisgrifio beth yw prif
nodweddion y mudiad mewn ffordd syml. Gan ei seilio ar y nodau a'r
amcanion yn eich dogfen lywodraethu, dylai'ch datganiad o fwriad
gynnwys:
- Yr hyn mae'ch mudiad yn ceisio'i wneud
- Pwy sy'n elwa, defnyddwyr eich gwasanaeth neu fuddiolwyr
- Sut ydych chi'n cyflawni'ch nodau
- Sut ydych chi'n barnu ansawdd eich gwaith
- Ble ydych chi'n gwneud y gwaith
Cofiwch nad yw datblygu datganiad o fwriad yn golygu 'bod yn
bopeth i bawb'. Rhaid i chi fod yn bendant iawn o ran yr hyn y
gallwch ac na allwch ei gyflawni, gosod blaenoriaethau i'ch gwaith
a gorfod dweud na ar adegau, os yw rhywbeth yn mynd yn groes i'ch
cenhadaeth a'ch gwerthoedd.
Adnoddau defnyddiol
- Mae'r ymgynghorwyr nfpSynergywedi cyhoeddi canllaw i gynorthwyo
mudiadau i ddatblygu cenhadaeth a gweledigaeth gref. Mae'r
adroddiad, sy'n dwyn y teitl Mission Impossible, yn dilyn ymchwil a
ddangosodd bod mwy nag un o bob pump o elusennau mwyaf y DU yn
methu â chyfleu eu gweledigaeth, eu gwerthoedd a'u pwrpas i'w
cefnogwyr neu eu staff. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i unigolion
deimlo eu bod yn rhan o'r mudiad a'i waith. Gellir lawrlwytho
crynodeb o'r adroddiad yn www.nfpsynergy.net/freereports
- Mae Picture this: a guide to scenario planning for voluntary
organisationsyn ganllaw ymarferol a gyhoeddwyd gan NCVOar gyfer
unrhyw un sy'n ymgymryd â rôl arweinydd ac sy'n awyddus i gael eu
mudiad i feddwl a gweithredu'n strategol. Mae'n edrych ar gynllunio
sefyllfaoedd fel 'proses o ddatblygu dewis o sawl dyfodol gwahanol
er mwyn llunio strategaeth hyfyw'. Gellir prynu copi caled neu ei
lawrlwytho mewn fformat PDF yn - www.ncvo-vol.org.uk/picturethis
Asesu eich mudiad
Cam nesaf y broses o gynllunio strategol yw asesu pob agwedd
o'ch mudiad yn drylwyr; cyfeirir at hyn yn aml fel
'dadansoddiad amgylcheddol'. Wrth ddatblygu
cynlluniau strategol, ni all yr un mudiad anwybyddu'r amgylchedd y
mae'n gweithio ynddo. Mae'n hanfodol bod y mudiad yn asesu'r
cyfleoedd a'r bygythiadau y mae'n debygol o'u hwynebu yn gynnar yn
ystod y broses gynllunio.
Mae angen edrych ar dueddiadau a phroblemau o fewn eich mudiad
ac yn yr amgylchedd allanol ehangach. Mae hynny'n golygu casglu
gwybodaeth am eich prosiectau, gwasanaethau, canlyniadau, eich
defnyddwyr a'u hanghenion, cystadleuwyr, cyllidwyr, partneriaid ac
unrhyw ffactorau eraill a all effeithio ar eich mudiad. Er
enghraifft, newidiadau i ddeddfau, trefniadau llywodraethu,
rheoleiddio, cyflogaeth neu arferion gweithio.
Mae nifer o becynnau llwyddiannus ar gael i'ch helpu i asesu
eich mudiad.
SWOT (Cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a
bygythiadau) - Mae hwn yn eich helpu i ddadansoddi
cryfderau a gwendidau mewnol, yn ogystal â chyfleoedd a bygythiadau
y mae'r mudiad yn debygol o'u hwynebu yn yr amgylchedd allanol.
Bydd angen i chi wedyn benderfynu pa newidiadau bydd angen eu
gwneud i fanteisio ar eich cryfderau ac i wneud yn fawr o'r
cyfleoedd, i oresgyn y gwendidau a delio ag unrhyw fygythiad.
PEST (Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasol a
Thechnolegol) - Gall dadansoddiad PEST eich cynorthwyo i
ddadansoddi'r amgylchedd allanol ymhellach ac edrych ar dueddiadau,
cyfleoedd a risgiau posibl. Dylai hyn eich helpu i feddwl am y
newidiadau a all ddigwydd a beth fydd eu goblygiadau i'ch mudiad.
Gallwch wedyn fynd ati i baratoi strategaethau mewn ymateb i'r
canlyniadau.
Ar ôl cwblhau eich asesiad dylech fod wedi cael amrywiaeth o
syniadau ar gyfer opsiynau a dewisiadau ar gyfer y dyfodol.
Opsiynau a dewisiadau
Bydd asesiad o amgylchedd y mudiad yn arwain at nifer o opsiynau
a dewisiadau. Mae angen ystyried yr holl opsiynau a dewisiadau hyn
fel bod modd gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a fydd yn
arwain at lunio strategaeth ar gyfer y dyfodol ac yn sicrhau ei
chynaliadwyedd.
Yn ystod y cam hwn mae'n bwysig iawn sicrhau bod yr hyn y mae'r
mudiad yn ei wneud o ran darparu gwasanaethau a gweithgareddau'n
ganolog i'r mudiad ei hun. Gall cyfleoedd ymddangos fel syniad da
ar y pryd, ond os ydych yn gwyro oddi wrth eich cenhadaeth a'ch
gwerthoedd craidd, gallant fynd â'ch sylw a niweidio eich
cynaliadwyedd yn y dyfodol.
Bydd angen i chi feddwl amflaenoriaethau, dichonoldeb a
risgiau.Nid ydych yn debygol o allu gwneud popeth, felly ar beth
dylech chi ganolbwyntio? A fedrwch chi gyflawni'ch cynlluniau? A
oes gennych ddigon o arian ac adnoddau? A oes unrhyw rwystrau?
Hefyd, a yw'n werth mentro ac wynebu'r risgiau?
Mae digon o becynnau cymorth ar gael i'ch helpu yn ystod y
gwahanol gamau hyn. Rhoddir manylion am rai ohonynt yma.
Blaenoriaeth
Bydd y canfyddiadau a ddaw i'r amlwg yn sgil asesiad neu
ddadansoddiad amgylcheddol y mudiad yn datgelu beth yw'r pethau
pwysicaf sy'n wynebu'r mudiad. Gall hynny fod yn newid i'r gyfraith
neu bolisi'r llywodraeth, newid yn y trefniadau nawdd neu gynnydd
yn y galw am wasanaethau'r mudiad. Rhaid rhoi blaenoriaeth i'r
rhain oll i sicrhau bod cenhadaeth y mudiad yn cael ei
chyflawni.
Dichonoldeb
Ar ôl cytuno ar y blaenoriaethau, rhaid i chi edrych ar yr
opsiynau sydd ar gael i'w cyflawni a beth fydd goblygiadau
ymarferol hynny. Gall yr opsiynau a fydd ar gael i'r mudiad
amrywio, a gallant gynnwys:
- A ddylid darparu gwasanaethau ychwanegol - yn fewnol neu eu
contractio?
- A oes angen nawdd ychwanegol ar y mudiad?
- A oes angen adeiladau newydd ynteu a ellir defnyddio'r gofod
presennol yn fwy effeithlon?
- A oes cyfleoedd i amrywio ffynonellau incwm?
- A oes angen i ni recriwtio rhagor o staff i wella ein
gwasanaeth?
Adnoddau defnyddiol
- Mae Picture This: a guide to scenario planning for voluntary
organisationsyn ganllaw ymarferol a gyhoeddir gan NCVO ar gyfer
unrhyw un sy'n ysgwyddo rôl arweinydd ac sy'n awyddus i weld eu
mudiad yn meddwl a gweithredu'n strategol. Mae'n edrych ar
gynllunio sefyllfaoedd fel 'proses o ddatblygu dewis o sawl dyfodol
gwahanol er mwyn llunio strategaeth hyfyw'. Gellir prynu copi caled
neu ei lawrlwytho mewn fformat PDF yn - www.ncvo-vol.org.uk/picturethis
- GallAnsoff's Matrixeich helpu i ystyried eich opsiynau ar gyfer
ehangu eich gweithgareddau.
Risg
Pa ddewisiadau bynnag a wneir, bydd rhaid cynnal asesiad risg
llawn i sicrhau nad yw'r mudiad yn rhy agored o ran ymrwymiadau
ariannol a'i allu i ddarparu gwasanaeth o safon i'w ddefnyddwyr.
Mae asesiad risg yn rhestru, yn didoli ac yn trefnu risgiau yn ôl
pwysigrwydd a lefel y perygl. Trwy ddeall yr hyn a all fygwth
perfformiad eich mudiad, neu hyd yn oed ei gynaliadwyedd yn y
dyfodol, gallwch fod mewn gwell sefyllfa i leihau effaith y risgiau
hynny.
Gellir cynnal asesiad risg mewn sawl ffordd, a bydd hynny'n
dibynnu ar yr hyn yr ydych am ei fesur. Mae nifer o becynnau
ymarferol ar gael i alluogi mudiad i gynnal asesiad risg llawn a
manwl.
Adnoddau defnyddiol
Y cynllun strategol
Wrth weithio'ch ffordd trwy'r broses cynllunio strategol, dylai
fod gennych ddigon o wybodaeth i ysgrifennu cynllun strategol. Mae
cynllun strategol da yn un byr a phwrpasol ac fe'i defnyddir i
gyfleu cynnwys y strategaeth i'r rhanddeiliaid. Nid yw dogfen faith
a chymhleth mor debygol o gael ei defnyddio mewn gweithgareddau pob
dydd.
Fel arfer, bydd cynllun strategol yn cynnwys:
- Datganiad o weledigaeth a chenhadaeth y mudiad
- Nodau ac amcanion penodol
- Sut yr ydych yn gobeithio cyflawni'r nodau a'r amcanion
hynny
- Y prif newidiadau y mae'n gobeithio eu gwneud dros y
blynyddoedd nesaf
- Rhesymau byr pam fod y newidiadau hynny'n briodol i'r
mudiad
- Prif oblygiadau'r strategaeth o ran cyllid, staffio, nawdd,
gwirfoddolwyr, sgiliau ac adnoddau
- Rolau pobl allweddol wrth gyflawni'r strategaeth
- Asesiad o'r risgiau a'r rhwystrau tebygol
- Yr amserlenni a'r broses ar gyfer monitro a gwerthuso'r
strategaeth
Gweithredu'r cynllun
Dyma'r rhan bwysicaf o'r broses cynllunio strategol - oherwydd
os na fydd y mudiad yn rhoi'r penderfyniadau a wnaethpwyd ar waith,
yna bydd yr holl ymdrechion a wnaethpwyd i gynhyrchu'r cynllun wedi
bod yn wastraff. Mae hyn yn golygu troi'r nodau ac amcanion lefel
uchel yn benderfyniadau a gweithgareddau o ddydd i ddydd. Gwnewch
yn siwr bod yr holl staff yn deall ac yn cael mynediad llawn at y
strategaeth er mwyn iddynt hwythau gael chwarae rhan flaenllaw i'w
gwireddu. Rhaid i egwyddorion y cynllun gweithredu gael eu
hymgorffori i'r rhaglenni gwaith presennol a rhai'r dyfodol a
dylech ystyried neilltuo rolau a chyfrifoldebau i dimau neu
unigolion penodol.
Cofiwch, os byddwch yn newid eich gweledigaeth, eich cenhadaeth
neu'ch gwerthoedd gall hyn olygu newid sylfaenol i'ch mudiad. Bydd
rhaid i chi feddwl yn ofalus sut yr ydych yn bwriadu cyflwyno a
rheoli'r newid hwn.
Gwerthuso
Gwerthuso canlyniadau ac effaith y cynllun strategol yw diwedd y
daith o ran cynllunio strategol. Pan fydd y cynllun strategol
wedi'i ymgorffori'n llawn o fewn y mudiad, mae'n amser camu'n ôl ac
edrych ar yr hyn sy'n gweithio'n dda ac, yr un mor bwysig, yr hyn
nad yw'n gweithio gystal.
Bydd angen i chi gynnal adolygiadau ysbeidiol i fonitro a
gwerthuso:
- Strwythurau, prosesau, polisïau a gweithdrefnaumewnole.e.
lefelau staffio, arfarniadau, dulliau gweithio
- Agweddauallanoly gwasanaethau a darperir gennych e.e. adborth
ar safon y gwasanaeth, niferoedd y defnyddwyr, ymholiadau.
Bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol, nid yn unig i'ch mudiad,
ond hefyd i gyllidwyr posibl, i ddenu defnyddwyr newydd a
gwirfoddolwyr, ac i ddenu cefnogaeth partneriaid a'r cyhoedd.
Mae'n bwysig hefyd 'cadw'r strategaeth yn fyw' trwy addasu'ch
strategaeth dros amser a'i hadolygu bob rhyw 3-5 mlynedd, oni bai
bod yr amgylchedd yr ydych yn gweithio ynddo'n newid yn barhaus.
Dylech fanteisio ar y cyfle mewn cyfarfodydd gyda staff ac
ymddiriedolwyr i drafod ac adolygu'r cynllun strategol a dylai pobl
newydd sy'n ymuno â'ch mudiad - staff, gwirfoddolwyr ac
ymddiriedolwyr - fod yn ymwybodol o'r cynllun strategol.
Mae'r cam gwerthuso'n adeg ddelfrydol i benderfynu pa brosiectau
neu weithgareddau newydd yr ydych am ymgymryd â hwy ac a yw eich
mudiad mewn sefyllfa i'w cyflawni, ac felly, i ddechrau ar y cylch
cynllunio strategol unwaith eto.