Ffeithiau allweddol
Ffeithiau allweddol
Gall mynd ati i fasnachu sicrhau nifer o fanteision i chi ond
mae'n bwysig cofio nad yw masnachu yn addas i bawb:
- Nid oes cyfyngiad ar incwm a enillir o fasnachu - gellir
ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion mudiad yn hytrach na bod yn
benodol i brosiect unigol a gyllidir gan grant
- Mwy o annibyniaeth - gall incwm heb gyfyngiadau helpu i
sbarduno twf a datblygu annibyniaeth
mudiad
- Gloywi sgiliau - meithrin diwylliant entrepreneuraidd a
datblygu sgiliau fel marchnata, negodi a rheolaeth ariannol
- Cynnwys defnyddwyr - mae masnachu'n cynnig cyfle yn aml i
ddefnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill gael eu cynnwys yn
y gwaith o gyflwyno gwasanaethau
- Effeithlonrwydd - gwneud y defnydd gorau posib o asedau sydd
prin yn cael eu defnyddio er mwyn creu incwm (e.e. gofod ystafell
neu offer)
Ffeithiau allweddol am fasnachu:
- Mae rhai mudiadau'n penderfynu masnachu i gynhyrchu elw'n unig
ond mae eraill yn masnachu er mwyn gwneud elw ac i hyrwyddo'u
nodau, eu hamcanion a'u gweledigaeth ar yr un pryd.
- Ni fydd defnyddwyr yn cael dweud wrth fudiadau sut mae'r elw
o'r hyn maent yn ei brynu i gael ei wario
- Bydd gan ddefnyddwyr ddisgwyliadau uchel bob amser a byddant yn
disgwyl safonau uchel am eu harian. Mae'n rhaid cysylltu nwyddau a
gwasanaethau â darpariaeth o safon bob amser
- Mae'n rhaid i'r rhanddeiliaid i gyd fod yn gefnogol i'r syniad
o gynhyrchu incwm o fasnachu. Mae angen newid diwylliannol
sylweddol yn aml er mwyn datblygu dull masnachol llwyddiannus o
weithio
- Mae cynllunio'n allweddol i lwyddiant. Mae gan weithgareddau
masnachu sydd wedi'u cynllunio'n briodol lawer mwy o siawns o
lwyddo na'r rhai sydd wedi cael eu rhoi at ei gilydd yn
fyrbwyll.